Isaiah 12

Emyn o fawl

1Bryd hynny, byddi'n dweud:

“Dw i eisiau diolch i ti, O Arglwydd!
Er dy fod wedi digio gyda fi,
rwyt wedi troi oddi wrth dy ddig a'm cysuro.
2Edrychwch ar y Duw sydd wedi fy achub i! a
Bydda i'n ei drystio, a fydd gen i ddim ofn.
Yr Arglwydd sy'n rhoi nerth a chân i mi!
Yr Arglwydd sydd wedi fy achub i.” b
3Byddwch yn codi dŵr yn llawen
o ffynhonnau achubiaeth.
4Byddwch yn dweud bryd hynny:
“Diolchwch i'r Arglwydd, a galw ar ei enw.
Dwedwch wrth bobl y gwledydd beth wnaeth e;
Cyhoeddwch fod ei enw wedi ei godi'n uchel.
5Canwch salmau i'r Arglwydd,
am iddo wneud peth mawr!
Gwnewch yn siŵr fod y byd i gyd
yn gwybod am y peth!
6Bloeddiwch ganu'n llawen,
chi sy'n byw yn Seion!
Mae'r Un sydd yn eich plith yn fawr –
Un Sanctaidd Israel.”
Copyright information for CYM